Penwythnos yr Aduniad Mawr
- Dydd Gwener 17 Gorffennaf
- 18:00
- —
- Dydd Sul 19 Gorffennaf, 2026
- 11:00
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Pris
£10 (ynghyd â ffi archebu)Gwybodaeth cadw lle
Tocynnau ar werth nawr
Mae Undeb Myfyrwyr Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyflwyno Penwythnos yr Aduniad Mawr – y digwyddiad cyntaf o’i fath i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd!
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i Benwythnos yr Aduniad Mawr ddydd Gwener 17 – dydd Sul 19 Gorffennaf 2026! Bydd hyn yn syth ar ôl wythnos y seremonïau graddio a bydd y ddinas yn brysur, felly dewch yn ôl i gwrdd â phawb ac i barhau i ddathlu!
Dim ots a wnaethoch chi raddio’r llynedd neu ddegawdau’n ôl, dyma gyfle i ailgysylltu â ffrindiau, ailymweld â’ch hoff leoedd yng Nghaerdydd a chreu atgofion newydd.
Dewch i fwynhau’r awyrgylch arbennig yn rhan o noson fythgofiadwy yn Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys manteisio ar gyfle unigryw i ymweld â’r campws am un penwythnos yn unig. Dyma ddigwyddiad i holl gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd.
Gŵyl nos Wener
Ymunwch â ni ar y campws o 6pm ar gyfer parti stryd i gyn-fyfyrwyr! Dechreuwch y penwythnos mewn steil drwy dreulio noson hafaidd yn y ddinas rydych chi’n ei charu. Mwynhewch ddiod i’ch croesawu, cerddoriaeth fyw, bwyd stryd a bariau.
Nos Sadwrn
Am un noson arbennig, rydyn ni’n dathlu’r nosweithiau clybio yn Undeb y Myfyrwyr a ddiffiniodd genedlaethau. Dewch i ail-fyw eich cyfnod yn lasfyfyriwr, ailgysylltu â hen ffrindiau a dawnsio drwy’r nos lle gwnaethoch chi greu cymaint o atgofion.
Mewn cydweithrediad ag
Pris
£10 (ynghyd â ffi archebu)Gwybodaeth cadw lle
Tocynnau ar werth nawrCysylltwch
- Development and Alumni Relations
- [email protected]
- +44(0)29 2087 6473