Skip to main content
English

10 mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Myfyrdod Personol


  • CalendarDydd Iau 11 Medi 2025
  • Clock outline16:00 - 17:30
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn falch o gynnal digwyddiad arbennig gyda Jane Davidson, awdur Futuregen: Lessons from a Small Country, ac un o brif sylfaenwyr Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i fyfyrio ar etifeddiaeth a dyfodol y ddeddfwriaeth arloesol hon.

Bydd y sesiwn hon yn trin a thrafod, o safbwynt Jane, sut y daeth y ddeddf i fod, ei heffaith dros y degawd diwethaf, a'r hyn sydd angen digwydd nesaf i ymgorffori ei hegwyddorion yn ddyfnach yn ein sefydliadau, ein cymunedau ac arferion ein busnesau.

Bydd Jane yn rhoi cipolwg ar sut mae'r ddeddf wedi dylanwadu ar bolisïau, addysg a bywyd dinesig yng Nghymru a thu hwnt, a bydd hi’n ein herio ni i ystyried y cyfraniad y gallwn ni i gyd ei wneud wrth greu dyfodol mwy cyfiawn, cynhwysol a chynaliadwy. Bydd y cyflwyniad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Tim Edwards, gydag ymateb gan yr Athro Rachel Ashworth.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i feddwl am y dyfodol, fel yr amlinellir yn Ein Dyfodol, Gyda'n Gilydd, a'i nod yw meithrin gallu a dealltwriaeth mewn nifer o ddisgyblaethau. Mae'n agored i staff, myfyrwyr, ac aelodau o'r gymuned fusnes ehangach.

Ymunwch â ni ar gyfer y sgwrs ysbrydoledig ac amserol hon gydag un o leisiau mwyaf dylanwadol Cymru ym maes cynaliadwyedd a pholisi cyhoeddus.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Ystafell Addysg Weithredol
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr