Mynd am Dro yng Ngŵyl Bod yn Ddynol
- Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
- 10:00 - 15:30
- Audience: Agored i'r cyhoedd
- Booking: Mae'r digwyddiad hwn am ddim
Diwrnod o sgyrsiau cyhoeddus thematig yn rhad ac am ddim, teithiau tywys a gweithdai yn archwilio'r ddinas a'n lle ni ynddi.
Mynd am Dro yng Ngŵyl Bod yn Ddynol
Diwrnod o sgyrsiau cyhoeddus, teithiau tywys a gweithdai yn archwilio'r ddinas a'n lle ni ynddi.
Gan dynnu ar ymchwil ryngddisgyblaethol yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, mae'r digwyddiad hwn sy’n rhad ac am ddim ac ar agor i’r cyhoedd yn dathlu cerdded yn ffordd o gyfarfod, dysgu a meddwl yn wahanol am y byd o'n cwmpas.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn arwain diwrnod o deithiau cerdded rhyngweithiol yn ogystal â chynnal sgyrsiau byr yng Nghaerdydd a'r parciau sydd ynddi i ddysgu am leoedd cyfarwydd a darganfod rhai newydd.
Ewch yn ôl mewn amser i ddysgu sut mae canol dinas Fictoraidd Caerdydd wedi esblygu; cymerwch olwg ar Barc Cathays, sy’n dod yn fyw mewn nifer o gynyrchiadau ffilm a theledu; rhannwch eich straeon am Barc Bute, Afon Taf, ac ymwelwyr, anifeiliaid a phlanhigion y parc. Dysgwch am gelfyddyd bod yn gerddwr, cymerwch olwg ar symudedd digidol drwy ffonau clyfar, dewch ar daith gerdded i sylwi ar y tywydd, gwnewch fap y cof, neu cymerwch ran mewn gweithdy hunangofiannol. Mae rhywbeth i bawb!
Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda ffordd newydd o feddwl am gerdded, myfyrio, mynegiant a phrofiadau gwahanol o'r ddinas.
Addas i bob oedran. Bydd pob digwyddiad yn hygyrch a byddwn yn croesawi bawb i fwynhau. Bydd y ddolen i gadw lle yn eich caniatáu i ddewis un neu fwy o deithiau cerdded, sgyrsiau neu weithdai o’r rhaglen.
Dewch yn barod ar gyfer y tywydd.
Gwybodaeth Mynediad: Parc Bute - Y Ganolfan Ymwelwyr
Rhaglen:
10.00-11.00 Taith gerdded y set a’r sgrin: Parc Cathays (cyfarfod y tu allan i Adeilad Morgannwg , Parc Cathays, CF10 3WT)
Gyda’r Athro Jon Anderson
Dewch am dro i Barc Cathays, man cyfarwydd sy’n cael ei drawsnewid drwy hud cynyrchiadau sgrin. Cerddwch drwy'r 'Bedwaredd Wal' a gweld ble a pham y defnyddiodd cynyrchiadau teledu eiconig fel Doctor Who, Discovery of Witches, a His Dark Materials Barc Cathays yn set.
10:00-11:00 Celfyddyd cerdded (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda’r Athro Robin Smith
Bydd y sgwrs hon yn sôn am ymchwil sy’n ymdrin â cherdded fel arfer celfyddydol. Bydd y sgwrs yn ymdrin ag arferion o gerdded, a dangos sut mae'r arferion hyn yn mynd yn gudd o ganlyniad i’r ffaith eu bod nhw mor gyfarwydd. Mae'r digwyddiad yn annog pobl i fyfyrio ar y weithred gan gerdded (neu olwyno) gyda'i gilydd mewn mannau cyhoeddus.
11:00-13:00 Cerdded gyda'ch pen yn y Cwmwl: Ystyried symudedd digidol (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Dr Mathilde Dissing Christensen
Mae'r daith gerdded hon yn ystyried ein perthynas â ffonau clyfar a sut maen nhw'n dylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n symud ein cyrff. Drwy amrywiaeth o ymarferion yn y parc a chanol y ddinas, byddwn ni’n trafod sut mae technolegau digidol yn dylanwadu ar ein symudedd bob dydd.
Dewch â ffôn clyfar wedi'i wefru'n llawn.
11:30-13:00 Olrhain cwricwlwm ein bywydau: Cerdded a meddwl gyda'n gilydd (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Dr Kevin Smith
Gweithdy cyfranogol i ystyried sut mae ein profiadau addysgol yn cyfrannu at bwy ydym ni, pwy rydyn ni eisiau bod a sut rydyn ni’n deall ein hunain, pobl eraill a'r byd. Ar ôl sgwrsio a meddwl gyda'i gilydd, bydd y cyfranogwyr yn mynd am dro’n annibynnol ym Mharc Bute gyda phecyn o weithgareddau cyn dychwelyd i rannu'r hyn y sylwon nhw arno ac at ble arweiniodd eu meddyliau.
12:30-13:00 Straeon o Afon Tafwys (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Safia Bailey
Bydd y sgwrs hon yn eich cludo trwy daith o 232-milltir ar hyd Afon Tafwys i rannu straeon am ei chymunedau, boed dynol neu fwy-na-dynol, o'r ffynnon i'r môr.
13:00-14:30 Bod yn fwy na dynol: Ailddychmygu straeon cudd ym Mharc Bute (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Safi Bailey a Peter Teuten
Dewch i rannu eich straeon a helpu i greu rhai newydd am Barc Bute ac Afon Taf ar daith gerdded synhwyraidd sy'n cynnwys ymwelwyr, anifeiliaid a phlanhigion y parc, gyda'r cyfle i greu map o atgofion personol.
14:00-14:30 Straeon o Afon Tafwys (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Safi Bailey
Bydd y sgwrs hon yn mynd â chi ar daith gerdded o 232 milltir ar hyd Afon Tafwys i rannu straeon ei chymunedau, rhai dynol a mwy na dynol, o'i tharddiad i'r môr.
14:00-15:30 Cerdded mewn ardal drefol fictoraidd (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Dr Aled Singleton a Marega Palser
Dewch yn ôl mewn amser i ddarganfod sut mae canol dinas Fictoraidd Caerdydd wedi esblygu. Ar daith gerdded drwy Lan-yr-Afon a Threganna , byddwn yn archwilio sut mae datblygiadau’r 1960au/70au a datblygiadau diweddarach yn berthnasol i ffurfiau o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
14:30-15:30 Taith gerdded y tywydd (Canolfan Ymwelwyr Parc Bute)
Gyda Dr Charlotte Bates a Dr Katherine Quinn
Taith gerdded araf o amgylch Parc Bute i rannu atgofion am y tywydd ac am leoedd, profi'r amodau tywydd, a meddwl am ddyfodol yr hinsawdd. Bydd gweithgareddau dan arweiniad yn cynnwys ymarferion lluniadu arsylwadol ac awgrymiadau i ysgrifennu.
Gŵyl Bod yn Ddynol, yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, sy'n digwydd rhwng 5 a 14 Tachwedd 2026. Mae Gŵyl Bod yn Ddynol dan arweiniad Ysgol y Doethuriaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth, ewch i brif wefan yr ŵyl, beinghumanfestival.org.
Cysylltwch
- Impact and Engagement
- [email protected]
Lleoliad
- Canolfan Ymwelwyr Parc Bute
- 35 North Road
- Caerdydd
- CF10 3DX