Canfyddiad Dan Fygythiad
- Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
- 20:30 - 22:00
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol Darlith Flynyddol Caerdydd 2025
Siaradwyr
Dr Frédérique de Vignemont
(Institut Jean Nicod, Paris)
Dr Jonathan Mitchell
(Cardiff University)
Honnodd Wittgenstein, “Mae byd dyn hapus yn un gwahanol i fyd y dyn anhapus.” Yma byddaf yn trafod byd dyn mewn perygl. Nerfusrwydd, anesmwythder, gorbryder, ofn, anobaith, panig, arswyd, braw, mae yna lawer o ffyrdd o ddisgrifio'r cynnwrf emosiynol sy'n cyd-fynd â'r ymdeimlad o berygl. Mae hyn wedi cael ei drafod yn helaeth mewn seicoleg, mewn athroniaeth a hyd yn oed yn fwy mewn ffuglen, ond yr hyn sy'n aml yn cael ei esgeuluso yw'r ffaith syml nad yw'r byd yn edrych yr un fath mwyach. Oherwydd ei bwysigrwydd esblygiadol a'r argyfwng sydd ynghlwm wrtho, mae perygl yn newid ein canfyddiad gweledol yn llwyr. O ganlyniad, nid yw gweld nadroedd fel gweld unrhyw wrthrych arall ac mae hyn yn wir nid yn unig am fygythiadau sylfaenol ond hefyd am yr holl bethau rydym wedi dysgu eu hamheuo. Yn y ddarlith hon, byddaf yn dadlau nad yw'r hyn rydym yn ei gredu yn draddodiadol am ganfyddiad yn gweithio mwyach pan fyddwn dan fygythiad. Mae'r ffin rhwng canfyddiad, rhagweld, gweithredu ac effaith yna’n chwalu’n sydyn.
Mae Frédérique de Vignemont yn gyfarwyddwr ymchwil yng Nghanolfan Genedlaethol Ffrainc ar gyfer Ymchwil Wyddonol (CNRS), ac yn ddirprwy gyfarwyddwr yn Sefydliad Jean Nicod ym Mharis. Mae ei hymchwil yn cyfuno athroniaeth meddwl a gwyddoniaeth wybyddol. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau mewn cyfnodolion athroniaeth blaenllaw ar ymwybyddiaeth gorfforol, hunanymwybyddiaeth, gofod peripersonol, ac yn fwy diweddar, ar y canfyddiad o berygl. Hi yw awdur Mind The Body: A philosophical exploration of bodily self-awareness (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2018) ac Affective Bodily Awareness (Cambridge University Press, 2023).
Bydd y ddarlith yn cael ei darlledu'n fyw ar YouTube ar sianel y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol
Croeso i bawb!
Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn.
Cysylltwch
- Jonathan Webber
- [email protected]
- 02920875660