Skip to main content
English

Darlith Syr Tom Hopkinson 2026: Achub y newyddion i achub y genedl. Sut i sicrhau bod newyddiaduraeth gwasanaeth cyhoeddus yn goroesi yn y DU ac yn cyflawni’r newyddion y mae cynulleidfaoedd eisiau ac sydd eu hangen arnynt


  • CalendarDydd Mercher 18 Mawrth 2026
  • Clock outline17:30 - 19:00
  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

Darlith Syr Tom Hopkinson 2026

Ymunwch â ni ar gyfer ail ddarlith Syr Tom Hopkinson, a draddodir gan Rachel Corp, Prif Swyddog Gweithredol ITN.

Mae Rachel yn goruchwylio un o gwmnïau cynhyrchu annibynnol mwyaf y DU. O dan arweinyddiaeth Rachel, mae ITN yn parhau i arloesi ym meysydd teledu llinol, cyfryngau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol, gan gyfuno newyddiaduraeth wreiddiol, bwrpasol i dair ystafell newyddion ar wahân wrth rannu seilwaith, technoleg a chynnwys anghystadleuol.

Cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredol, Rachel oedd Golygydd ITV News, gan arwain ar ohebu nodedig, unigryw a gwreiddiol yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'n rhywun blaenllaw sy’n credu mewn newyddion dibynadwy a diduedd o ansawdd uchel, rôl unigryw cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus Prydain ac amlygrwydd parhaus newyddion mewn byd aflinol. Mae ganddi ddiddordeb angerddol mewn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol ar y sgrîn ac oddi arni. Hi hefyd yw Cadeirydd Women in Journalism.

Dathlu cyfraniadau a chyraeddiadau Syr Tom
Roedd Syr Tom yn arloeswr ym maes addysg newyddiaduraeth. Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn olygydd, a gyhoeddodd y lluniau cyntaf o gyflafan Sharpeville yn Ne Affrica, sefydlodd y Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Hopkinson o blaid swyddogaeth newyddiaduraeth mewn cymdeithas ddemocrataidd, gan ddweud, “Gwasg rydd yw gwarcheidwad mwyaf gwyliadwrus y wladwriaeth. Mae gwasg sydd bob amser yn dweud 'ie' yn angheuol i lywodraeth dda”. Bydd y gyfres o ddarlithoedd yn trin a thrafod themâu sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a democratiaeth.

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Large lecture theatre, 0.06
Two Central Square
Central Square
Cardiff
CF10 1FS

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr