Skip to main content
English

Deall ADHD mewn plant a sut i’w cefnogi yn yr ysgol


  • CalendarDydd Mawrth 7 Hydref 2025
  • Clock outline16:00 - 17:00
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Gwybodaeth cadw lle

Bydd y weminar yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams. Bydd mynychwyr yn derbyn y ddolen ymuno yn eu e-bost cadarnhau ar ôl cofrestru.

Nod y weminar hon yw helpu staff ysgolion cynradd i wybod arwyddion ADHD mewn plant ysgol gynradd, beth i'w wneud os oes gennych bryderon, a sut i gefnogi pobl ifanc niwroamrywiol mewn lleoliad ysgol.

Ymunwch â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer gweminar dreiddgar ac ymarferol ar anhwylder diffyg sylw a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn plant gyda'r ymchwilydd Dr Joanna Martin o is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r weminar hon wedi'i hanelu at staff ysgolion cynradd yng Nghymru.

P'un a ydych chi'n addysgwr neu'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc, bydd y sesiwn hon yn eich arfogi â'r ymchwil a'r strategaethau diweddaraf i adnabod a chefnogi plant ag ADHD yn well - yn enwedig mewn lleoliad ysgol gynradd.

 

Yr hyn y byddwch chi'n ei ddysgu:

  • Sut mae ADHD yn cyflwyno'n wahanol mewn merched a bechgyn - a pham mae hynny'n bwysig
  • Arwyddion cynnar o ADHD i chwilio amdanynt mewn plant oedran ysgol gynradd
  • Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am blentyn
  • Strategaethau ac offer cymorth i helpu plant i ffynnu yn yr ysgol
  • Mewnwelediadau i offeryn asesu ADHD newydd, cynhwysol o ran rhywedd
  • Golwg ymlaen at astudiaeth ymchwil gyffrous mewn ysgolion sy'n cael ei lansio yng Nghymru

🌟 Arhoswch am y sesiwn holi ac ateb fyw i ofyn eich cwestiynau yn uniongyrchol i Dr Martin!

Gwybodaeth cadw lle

Bydd y weminar yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams. Bydd mynychwyr yn derbyn y ddolen ymuno yn eu e-bost cadarnhau ar ôl cofrestru.

Cysylltwch

Lleoliad

Marker
Ar-lein

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr