Skip to main content
English

Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd


  • CalendarDydd Mercher 11 Tachwedd 2026
  • Clock outline10:50 - 11:30
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
  • Language: cymraegAr gael yn Gymraeg
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Mae’n draddodiad yn y Brifysgol i anrhydeddu cyn-aelodau o’r staff a chyn-fyfyrwyr a roddodd eu bywydau dros eu gwlad yn ystod y ddau Ryfel Byd ac mewn rhyfeloedd eraill.

Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei nodi ddydd Mercher, 11 Tachwedd 2026 eleni. Dyma wahodd y staff, y myfyrwyr a’r cyhoedd i ddod i Wasanaeth Coffa’r Brifysgol a chymryd rhan mewn dwy funud o ddistawrwydd. Gofynnir i’r rhai sy’n dymuno bod yn bresennol gwrdd yn Oriel John Viriamu Jones (VJ) yn y Prif Adeilad am 10.50am er mwyn i’r digwyddiad allu dechrau’n brydlon.

Mae croeso i bawb. Cofrestrwch i ddod, gan fod nifer y lleoedd yn brin.

Nodwch na fydd modd cael mynediad i Oriel VJ o fynedfa’r Prif Adeilad ar Rodfa’r Bedol rhwng 10.30am a 12.00pm, a dim ond y rhai sy’n mynd i’r Gwasanaeth Coffa a fydd yn cael mynediad o faes parcio Plas y Parc yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gofyn i aelodau o’r staff a myfyrwyr ddangos eu cardiau adnabod. Ni fydd modd cael mynediad i’r oriel ar y llawr cyntaf o Oriel VJ yn ystod y Gwasanaeth, a bydd mynediad i’r Llyfrgell Gwyddoniaeth wedi’i gyfyngu.

Bydd mynediad i’r Prif Adeilad drwy fynedfeydd Ysgol y Gwyddorau Ffisegol, Cemegol ac Amgylcheddol yn cael ei ganiatáu drwy ddangos cerdyn adnabod staff/myfyriwr yn ystod y cyfnod hwn.

Peidiwch â dod â bagiau mawr i mewn i Oriel VJ. Os oes gennych fag sy’n llai o faint, un o’r amodau mynediad yw eich bod yn caniatáu i'ch bag gael ei archwilio at ddibenion diogelwch.

Gofynnir yn garedig i’r staff a’r myfyrwyr sy’n defnyddio’r Prif Adeilad rhwng 10.50am a 11.20am ar 11 Tachwedd gadw’r sŵn mor isel â phosibl.

Diolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
John Viriamu Jones (VJ) Gallery
Main Building
Park Place
Cardiff
CF10 3AT

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr