‘Dinasoedd Myfyriol, Meddylfryd Creadigol’: yn tanio creadigrwydd ac ymgysylltiad pobl ifanc â’r amgylchedd adeiledig
- Dydd Llun 15 Medi 2025
- 10:00 - 17:00
- Audience: Ar agor i'r cyhoedd a staff
- Booking: Mae'r digwyddiad hwn am ddim

Mae'r digwyddiad yn dwyn ynghyd nifer o ddarpar academyddion ac ymarferwyr dylunio sydd â phrofiad nodedig o gael plant ac oedolion ifanc i ymwneud â’r amgylchedd adeiledig trwy ddulliau creadigol, i rannu eu profiad, ehangu eu rhwydweithiau a ffurfio cynghreiriau ymchwil ac ymarfer newydd.
Mae’r rhestr o gyfranwyr yn cynnwys unigolion sy'n cynrychioli: Ysgol Pensaernïaeth Llundain, Amgueddfa V&A (Young V&A), Gwasanaeth Ymgysylltu ag Ieuenctid Gwasanaeth Cynllunio ar y Cyd Caergrawnt Fwyaf, Social Life, Prifysgol Dinas Birmingham, MATT+FIONA, yr Oriel Genedlaethol, Urban Learners, Prifysgol Spa Caerfaddon, Architecture for Kids, Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Addysg Thornton.
Crynodeb o'r themâu a'r amcanion allweddol:
Mae'r symposiwm 'Dinasoedd Myfyriol, Meddyliau Creadigol' yn ailgynnau deialog fyfyriol, feirniadol a phwrpasol ymhlith addysgwyr ac ymarferwyr pensaernïol sy'n arbenigo mewn cael plant ac oedolion ifanc i ymwneud â’r amgylchedd adeiledig trwy arferion creadigol.
Nod y digwyddiad yw hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau ar nodau, adnoddau a phrosesau creadigol, er mwyn cyfoethogi cymuned o ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cael eu hysgogi gan werthoedd a diddordebau tebyg, sy'n barod i wthio ffiniau a phrofi arferion creadigol newydd a dulliau ymgysylltu â'r cyhoedd.
Er mwyn cychwyn deialog gyfarwydd, ddiogel ond hefyd anghyfarwydd sy'n ysgogi'r meddwl, mae'r symposiwm wedi'i drefnu o amgylch y tri dull creadigol a thematig sef Creu, Meddwl, a Phreswylio.
Mae Creu yn agor trafodaeth bwrdd crwn ar weithdai creadigol sy'n cefnogi cynllunio prosiectau byw yn gyfranogol/cynllunio cyfranogol yn rhan o brosiectau byw.
Mae Meddwl yn dwyn ynghyd arbenigedd mewn arferion creadigol sy'n cefnogi dehongliadau myfyriol a beirniadol o'r amgylchedd adeiledig.
Mae Preswylio’n gwahodd siaradwyr gwadd i feddwl am ffyrdd greddfol a chreadigol o breswylio, cwestiynu ac archwilio ein dinasoedd.
Gan adlewyrchu ac ystumio dehongliadau academaidd sefydledig o greadigrwydd (creu, meddwl, preswylio), byddwn ni’n cwestiynu ffiniau'r themâu ac yn trafod creadigrwydd yn broses aflinol, anrhagweladwy a chyfunol.
Mae prosiect Dinasoedd Myfyriol, Meddyliau Creadigol yn cael ei arwain gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac yn cael ei ariannu gan Ignite: dyfarniadau grant bach gan Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae'r symposiwm undydd wedi'i drefnu ar y cyd ag Architecture for Kids, Ymddiriedolaeth Addysg Thornton a’r Ganolfan Adeiladu, tri phartner prosiect sy'n enwog am eu ffocws ar addysgu ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, ac am feithrin eu gallu yn yr amgylchedd adeiledig.
Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi cyrraedd ei gapasiti uchaf. Yn anffodus, ni allwn hwyluso presenoldeb unrhyw gyfranogwyr ychwanegol.
Lleoliad
- y Ganolfan Adeiladu
- 26 Store St
- Llundain
- WC1E 7BT