Diwrnod Agored Dysgu Gydol Oes
- Dydd Mawrth 16 Medi 2025
- 12:00 - 14:00
- Audience: Ar agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
- Booking: Mae'r digwyddiad hwn am ddim

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser ar adegau sy'n addas i chi. Dewch draw i sgwrsio am eich opsiynau.
Bydd sesiwn gyda'r nos hefyd ddydd Mawrth 16 Medi 17:00-19:00.
Darganfyddwch am ein cyrsiau rhan-amser i oedolion a Llwybrau i raddau ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cynnal 300 o gyrsiau eleni mewn amrywiaeth eang o bynciau. Gallwch ddewis dysgu mewn ystafell ddosbarth neu ar-lein ac rydym yn cynnal cyrsiau yn ystod y dydd neu gyda'r nos.
Mae yna opsiynau cyllido ar gael, gallech hyd yn oed ddysgu am ddim gyda'r Hepgoriad Ffioedd Myfyrwyr a ariennir gan Medr. Gellir dod o hyd i feini prawf cymhwysedd ar ein gwefan.
Bydd lluniaeth ar gael. Byddwch yn cael croeso cynnes yn ein Diwrnod Agored!
Cwblhewch y ffurflen hon i'n helpu i gynllunio ar gyfer ein Diwrnod Agored.
Cysylltwch
- Lifelong Learning
- [email protected]
- 029 2087 0000
Lleoliad
Cathays
Cardiff
CF10 3AT