Skip to main content
English

Hanner Marathon Caerdydd Hydref 2026


  • CalendarDydd Sul 4 Hydref 2026
  • Clock outline09:00 - 15:00
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
  • Booking: Ticket Mae tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn

Pris

£10 registration fee

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Ar 4 Hydref 2026, bydd Hanner Marathon Caerdydd yn dychwelyd i strydoedd y brifddinas, lle bydd miloedd o bobl yn rhedeg 13.1 milltir ar un o gyrsiau mwyaf gwastad y DU.

Ewch ati i ymuno â #TeamCardiff – tîm codi arian Prifysgol Caerdydd – a dewis codi arian ar gyfer naill ai ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser y Brifysgol. Drwy ymuno â #TeamCardiff, byddwch yn helpu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i wneud darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.

Gwnewch gais am le elusennol ar #TeamCardiff

Gwnewch gais i ymuno â #TeamCardiff yn Hanner Marathon Caerdydd ar 4 Hydref 2026. Gofynnwn i'n rhedwyr godi o leiaf £250 o nawdd ar gyfer eich achos ymchwil Prifysgol dewisol.

Ymunwch â #TeamCardiff â'ch lle eich hun

Os oes gennych eich lle eich hun yn barod, neu os byddai'n well gennych osod eich targed codi arian eich hun, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â #TeamCardiff! Byddwch yn cael yr un gefnogaeth â'n rhedwyr â lle elusennol (gan gynnwys top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heblaw’r targed codi arian. Rhowch wybod i ni os hoffech ymuno â #TeamCardiff â’ch lle eich hun.

Bydd pob ceiniog o’r arian a dderbyniwn yn mynd yn syth i’r achos ymchwil o’ch dewis ym Mhrifysgol Caerdydd.

Pris

£10 registration fee

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
  • Castle Street
  • Cardiff
  • CF10 3RB

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr