Panel Mis Hanes Pobl Dduon: Pŵer a Balchder
- Dydd Iau 30 Hydref 2025
- 14:00 - 15:30
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, byddwn ni’n cynnal trafodaeth banel bwerus ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr sy’n canolbwyntio ar y thema eleni: Pŵer a Balchder.
Siaradwyr
Professor Emmanuel Ogbonna, CBE
Professor of Organisation and Management
Dr Daniela Duc
Lecturer
Judith Nkwopara
Speaker, researcher
Ali Abdi
Community organiser
Patrick Younge
Chair of Council
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, byddwn ni’n cynnal trafodaeth banel bwerus ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr sy’n canolbwyntio ar y thema eleni: Pŵer a Balchder.
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, byddwn ni’n cynnal trafodaeth banel bwerus ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr sy’n canolbwyntio ar y thema eleni: Pŵer a Balchder.
Bydd y siaradwyr yn rhannu eu profiadau personol ac yn trafod creu newid parhaol, gan dynnu sylw at sut mae croesawu eu diwylliant a’u dilysrwydd wedi llywio eu bywydau. Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r rhestr o siaradwyr:
- Patrick Younge – Cadeirydd corff llywodraethu Prifysgol Caerdydd, Cyngor y Brifysgol, a chyn-fyfyriwr y brifysgol. Yn gyn-Brif Swyddog Creadigol y BBC, mae wedi bod yn eiriolwr gweithgar dros gydraddoldeb hil yn y cyfryngau am y 30 mlynedd diwethaf, o lansio rhaglen materion cyfoes arloesol y BBC, Black Britain, i'w rôl bresennol ar bwyllgor llywio Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant ITV.
- Yr Athro Emmanuel Ogbonna, CBE – Athro Trefnu a Rheoli yn Ysgol Busnes Caerdydd yw’r Athro Ogbonna. Cyd-gadeiriodd y grŵp llywio a ddatblygodd y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
- Dr Daniela Duc – Darlithydd Cynhyrchion Fferyllol a Thechnolegau Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd yw Dr Duc. Mae’n arbenigwr ym maes ymchwil mewn creu rhyngwynebau niwral, datblygu bioddyfeisiau, niwrofodylu a niwrofoeseg. Mae'n rhan o dîm golygyddol y cylchgrawn UNBLOCK sy'n trin a thrafod yr heriau cyffredin ymhlith academyddion benywaidd du a’r atebion posibl.
- Judith Nkwopara – Siaradwr byd-eang, ymchwilydd ac eiriolwr cydraddoldeb a chynhwysiant yw Judith. Hi yw sylfaenydd Pontio’r Bwlch – y sefydliad addysg byd-eang cyntaf i geiswyr noddfa yng Nghymru a sefydlwyd gan geisiwr lloches. Hi yw’r Arweinydd Polisi ac Eiriolaeth ar gyfer Noddfa yn y Senedd.
- Ali Abdi – Trefnydd cymunedol sy'n gweithio gyda chymunedau yn Grangetown a Phrifysgol Caerdydd yw Ali.
Byddwn ni’n trafod sut y gall troi balchder yn bŵer ailddiffinio cynrychiolaeth ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Gyda’n gilydd, byddwn ni’n ystyried pwysigrwydd mannau cynhwysol lle mae pŵer yn cael ei rannu, lle mae balchder yn ein diwylliannau’n cael ei groesawu a lle mae hunaniaeth bersonol yn ffynhonnell o gryfder.
Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i’r staff a’r myfyrwyr gymryd rhan mewn trafodaeth agored, ehangu eu dealltwriaeth a chael eu hysbrydoli gan straeon sy'n anrhydeddu'r gorffennol wrth lywio’r dyfodol.
Digwyddiadau yn y gyfres hon
Mis Hanes Pobl Dduon
Panel Mis Hanes Pobl Dduon: Anrhydeddu ein Cymunedau
26 Hydref, 12:00
Mis Hanes Pobl Dduon
23 Hydref, 18:30
Anrhydeddu ein Arddangosfa Bortreadau Cymunedau
19 Hydref, 09:00Drymio Rhyngweithiol Gorllewin Affrica
17 Hydref, 14:30
Barddoniaeth Lafar Marvin Thompson
28 Hydref, 12:30Noson Ffilm Mis Hanes Pobl Dduon
16 Hydref, 18:00
Roots: Cardiff Bay’s distinct Black history – dangosiad dogfen
10 Hydref, 12:00
Cwis Mis Hanes Pobl Dduon
09 Hydref, 13:00
Y Lle Cymdeithasol – Digwyddiad Grefft Mis Hanes Pobl Dduon
21 Hydref, 10:00Cysylltwch
- EDI Hub
- [email protected]
Lleoliad
Main Building
Park Place
Cardiff
CF10 3AT