Ysgol Haf mewn Ymchwil Anhwylderau’r Ymennydd
- Dydd Llun 14 Gorffennaf
- 12:00
- —
- Dydd Iau 17 Gorffennaf, 2025
- 12:45
- Audience: Ar agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
- Booking: Mae'r digwyddiad hwn am ddim
Gwybodaeth cadw lle
Caeodd ceisiadau ar gyfer ysgol haf 2025 ddydd Sul 8 Mehefin 2025.
Mae'r ysgol haf yn rhoi sylfaen i hyfforddeion a gwyddonwyr mewn ymchwil anhwylderau'r ymennydd ac i ysbrydoli a hysbysu ymchwilwyr yfory.
Mae'r digwyddiad pedwar diwrnod hwn yn cael ei gynnal yn Adeilad Hadyn Ellis, sy'n cael ei redeg gan y tîm sydd wedi'i leoli yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'r ysgol haf yn cynnwys sgyrsiau ar ystod o bynciau mewn seiciatreg, niwroleg a niwrowyddoniaeth gan gynnwys:
- niwrodelweddu
- epidemioleg seiciatrig
- Geneteg ac epigeneteg
- dilyniannu trwybwn uchel
- trin bôn-gelloedd
- asesiadau ffenotypig
- Moeseg mewn ymchwil genetig
Mae'r ysgol haf hefyd yn cynnwys gweithdai ar yrfaoedd gwyddonol a chymrodoriaethau academaidd.
Pwy all wneud cais
Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at hyfforddeion clinigol (Foundation, Core, Specialty Training) a gwyddonwyr anghlinigol (MSc, PhD, Ôl-ddoethuriaeth) sydd â diddordeb mewn symud i faes geneteg a genomeg niwroseiciatrig neu'r rhai sydd eisiau cyflwyniad i ymchwil anhwylderau'r ymennydd.
Gwybodaeth cadw lle
Caeodd ceisiadau ar gyfer ysgol haf 2025 ddydd Sul 8 Mehefin 2025.Cysylltwch
- Psychological Medicine Communications team
- [email protected]
Lleoliad
Hadyn Ellis Building
Maindy Road
Cardiff
CF24 4HQ