Skip to main content
English

Croesffordd Ffugio: Canfod Gwaith Ffug


  • CalendarDydd Gwener 6 Tachwedd 2026
  • Clock outline10:30 - 15:00
  • Audience: UsersAgored i'r cyhoedd
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Cipolwg diddorol ar fyd un o gymeriadau mwyaf arwyddocaol a deinamig pensaernïaeth Gothig, hynafiaethgarwch a ffugio gwaith yn y DU. Ydych chi’n gallu sylweddoli pan mae rhywbeth yn ffug?

Croesffordd Ffugio: Canfod Gwaith Ffug

Cipolwg diddorol ar fyd un o gymeriadau mwyaf arwyddocaol a deinamig pensaernïaeth Gothig, hynafiaethgarwch a ffugio gwaith yn y DU. Ydych chi’n gallu sylweddoli pan mae rhywbeth yn ffug?

Roedd gan George Shaw (1810-76) bractis pensaernïol sylweddol yn Swydd Efrog a oedd yn cynnig gweledigaethau pensaernïol o'r byd canoloesol gyda dodrefn, gwydr wedi'i baentio, a gwaith haearn oll wedi'u teilwra i gyd-fynd â diddordebau hanesyddol cleientiaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae ymchwil i ddyddiaduron a llythyrau Shaw gan Brifysgol Caerdydd yn datgelu ei fod yn gasglwr brwd oedd yn angerddol am y gorffennol, ond yn ddiweddarach daeth y ffin rhwng y ffeithiol a’r ffug yn fwy aneglur wrth iddo greu ffugiadau.

Dysgwch sut y defnyddiodd Shaw ei wybodaeth o hen greiriau i gynhyrchu dodrefn 'Tuduraidd' ffug a werthodd fel 'hen greiriau teuluol’ i uchelwyr.

Yn dilyn sgwrs ddiddorol, cymerwch ran mewn sesiwn labordy 'Dod o hyd i’r enghraifft sydd wedi’i ffugio' i weld a allwch chi wahaniaethu rhwng manylion dilys a ffug mewn atgynhyrchiadau.

Bydd cyfranogwyr yn llunio naratifau ynghylch ffugio ac yn ystyried moeseg treftadaeth a dilysrwydd.

Addas i bawb.

Gŵyl Bod yn Ddynol, yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, sy'n digwydd rhwng 5 a 14 Tachwedd 2026. Mae Gŵyl Bod yn Ddynol dan arweiniad Ysgol y Doethuriaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth, ewch i brif wefan yr ŵyl, beinghumanfestival.org.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Architecture Library, Second Floor
Bute Building
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NB

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr