Skip to main content
English

Y Rhagolygon Polisi Ariannol yng nghwmni Sarah Breeden


  • CalendarDydd Mawrth 30 Medi 2025
  • Clock outline16:30 - 17:30
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd a staff
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i sesiwn friffio gyhoeddus arbennig yng nghwmni Sarah Breeden, Dirprwy Lywodraethwr Sefydlogrwydd Ariannol, Banc Lloegr.

Siaradwyr

Sarah Breeden
Deputy Governor for Financial Stability, Bank of England.

Professor Melanie Jones
Head of the Economics Section, Professor of Economics Cardiff Business School

Mae’n bleser mawr gennym eich gwahodd i sesiwn friffio gyhoeddus arbennig yng nghwmni Sarah Breeden, Dirprwy Lywodraethwr Sefydlogrwydd Ariannol, Banc Lloegr.

Bydd Sarah yn trafod ei barn ar ddatblygiadau economaidd y DU a'r rhagolygon ar gyfer chwyddiant a pholisi ariannol.

Daeth Sarah Breeden yn Ddirprwy Lywodraethwr Sefydlogrwydd Ariannol ar 1 Tachwedd 2023. Mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Polisi Ariannol, y Pwyllgor Polisi Cyllidebol, y Pwyllgor Rheoleiddio Darbodus, a Llys Cyfarwyddwyr y Banc. Ym Manc Lloegr, mae ganddi gyfrifoldeb penodol dros sefydlogrwydd ariannol, goruchwylio seilweithiau'r farchnad ariannol, materion rhyngwladol, arian cyfred digidol banciau canolog a thechnoleg ariannol. Yn ogystal â hynny, mae gan Sarah gyfrifoldeb ar lefel y Dirprwy Lywodraethwr am waith y Banc ar y risgiau ariannol ac o ran sefydlogrwydd ariannol oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac mae'n cadeirio gweithgor y Bwrdd Sefydlogrwydd Ariannol ar wendidau oherwydd yr hinsawdd.

Rydym yn ddiolchgar i’r Athro Melanie Jones am gadeirio'r digwyddiad hwn ac am holi eich cwestiynau chi i Sarah yn dilyn ei haraith.

I ymuno â ni naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cofrestrwch drwy ddilyn y ddolen gan Eventbrite

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr