Skip to main content
English

Ffaith yn erbyn Ffuglen yn y Byd Gemau


  • CalendarDydd Iau 5 Tachwedd 2026
  • Clock outline17:30 - 19:30
  • Audience: UsersAgored i'r cyhoedd
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Panel trafod rhyngweithiol yn rhad ac am ddim i gael golwg ar gemau fideo hanesyddol

Ffaith yn erbyn Ffuglen yn y Byd Gemau

Panel trafod rhyngweithiol yn rhad ac am ddim i gael golwg ar gemau fideo hanesyddol

Mae gemau fideo yn rhoi cyfle i ni gael profiad o hanes, gan ein cludo i bentrefi Canoloesol, Llundain yn Oes Fictoria, a'r Gorllewin Gwyllt. Ond nid yw cynnwys hanes mewn gemau yn hawdd. A allwn ni gydbwyso realaeth â hygyrchedd, neu ddilysrwydd â straeon mwy amrywiol a chynhwysol? Oes modd i “hanes go iawn” ysbrydoli gemau newydd?

Ymunwch ag ymchwilwyr ac awduron o Brifysgol Caerdydd i ateb y cwestiynau hyn, a dathlu eich hoff gemau.

Bydd ein panel yn cynnwys arbenigwyr mewn dilysrwydd hanesyddol wrth farchnata a chwarae gemau fideo yn ogystal â dylunio naratifau, awdur ar gyfer gemau ac ymchwilydd i ryfel mewn gemau, ac ymchwilydd i ddeialog mewn gemau.

Byddwch chi'n dysgu am y ffordd y mae ymchwilwyr yn y dyniaethau'n ymdrin â gemau, am lwybrau gyrfa posibl, a sut i ffurfio cysylltiadau dyfnach â gemau rydych chi wrth eu bodd â nhw.

Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddatblygu a chyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer gemau â thema hanesyddol gyda chwaraewyr angerddol eraill, a chwrdd ag unigolion eraill sydd â diddordeb mewn gemau hanesyddol.

Yn addas i bobl 16+

Gŵyl Bod yn Ddynol, yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, sy'n digwydd rhwng 5 a 14 Tachwedd 2026. Mae Gŵyl Bod yn Ddynol dan arweiniad Ysgol y Doethuriaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth, ewch i brif wefan yr ŵyl, beinghumanfestival.org.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
  • Cornerstone
  • Charles Street
  • Caerdydd
  • CF10 2GA

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr