Skip to main content
English

Archwilio bod yn Ddynol

  • CalendarDydd Sadwrn 7 Tachwedd 2026
  • Clock outline10:00 - 16:00
  • Audience: UsersAgored i'r cyhoedd
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Diwrnod o weithgareddau ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n rhad ac am ddim i’r cyhoedd gael i archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn ddynol

Archwilio bod yn Ddynol

Diwrnod o weithgareddau ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n rhad ac am ddim i’r cyhoedd gael i archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn ddynol

I ddathlu Gŵyl Bod yn Ddynol, gŵyl y dyniaethau yn y DU, ymunwch â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru i ddysgu am yr ymchwil ddiweddaraf sy'n ein helpu i ddeall ein hunain, ein cymuned, a'r heriau rydym yn eu hwynebu mewn byd sy'n newid.

Bydd ystod eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd creadigol yn gysylltiedig â thema gŵyl eleni, sef Croesffyrdd - lle i wneud penderfyniadau, i gyfarfod, i weld canlyniadau a newid.

Bydd cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd sy'n procio'r meddwl, gemau bwrdd, realiti rhithwir, cloddfeydd bach a gweithgareddau hwyliog, rhyngweithiol a chreadigol. Bydd rhywbeth i bawb!

  • Premiere gerddoriaeth fyw gan Wonderbrass - yn cysylltu traddodiad cerddorol Cymru â bandiau stryd cyfoes
  • Cymerwch ran yn ein gêm fwrdd i ddysgu am gydsyniad - ydych chi wir yn gallu dweud na?
  • Ydych chi'n meddwl y gallech chi weld enghraifft o waith wedi’i ffugio o gyfnod y Tuduriaid? Dewch o hyd i’r enghraifft wedi’i ffugio yn ein gweithgareddau creadigol
  • Cewch greu straeon sain a mapiau creadigol sy’n seiliedig ar brofiadau mamau sy’n fudwyr
  • Dewch o hyd i gliwiau a phenderfynwch beth sy'n wir ac yn gamarweiniol ar groesffordd camwybodaeth
  • Rhowch gynnig ar realiti rhithwir i archwilio’r cysylltiadau rhwng bydoedd ffisegol a rhithwir.
  • Dangosiad ffilm o gyfraniad diwylliannol bwytai Tsieineaidd yn ne Cymru
  • Gwrandewch ar straeon digidol a chymerwch ran mewn Ganolfan Adrodd Straeon Prifysgol De Cymru
  • Cymerwch olwg uniongyrchol ar ddarganfyddiadau archaeolegol lleol a chymerwch ran mewn cloddfa fach
  • Arddangosfa am orffennol, presennol a dyfodol Teml Heddwch eiconig Caerdydd

Ymunwch â ni mewn dathliad teuluol bywiog o'r dyniaethau, fel cyfle i fod yn greadigol, i ddysgu, i fyfyrio, a dod at ein gilydd fel cymuned.

Addas i bob oedran.

Bydd Caffi/Bar Norsk ar agor am damaid i fwyta, am ddiod neu ginio.

Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael gerllaw. Os ydych chi’n teithio ganol y ddinas, gallwch ddod o hyd i ni ar lwybrau bysiau 1, 6 a Skycar, neu ar y trên o Heol y Frenhines neu'r Orsaf Ganolog i Fae Caerdydd.

Gwybodaeth Mynediad - Hafan - Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd

Gŵyl Bod yn Ddynol, yw gŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU, sy'n digwydd rhwng 5 a 14 Tachwedd 2026. Mae Gŵyl Bod yn Ddynol dan arweiniad Ysgol y Doethuriaethau Uwch, Prifysgol Llundain mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a'r Academi Brydeinig. Am ragor o wybodaeth, ewch i brif wefan yr ŵyl, beinghumanfestival.org.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
  • Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd,
  • Harbour Drive
  • Bae Caerdydd
  • CF10 4PA

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr