Parcffordd Caerdydd: Cysylltu Pobl, Busnes a Chyfle
- Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026
- 08:30 - 09:30
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Ymunwch â ni ar gyfer Brecwast Briffio nesaf y Gymuned Fusnes, lle byddwn ni’n croesawu Nigel Roberts o Ddatblygiadau Parcffordd Caerdydd i drafod un o brosiectau twf a chysylltedd newydd mwyaf cyffrous Cymru. Bydd Nigel yn rhannu cipolwg arbennig ar ddatblygiad Parcffordd Caerdydd – ardal fusnes fawr newydd 200 erw sy’n cynnwys gorsaf drenau ar y brif linell, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, a mynediad cynaliadwy i un o gronfeydd talent mwyaf y DU.
Siaradwr
Nigel Roberts
Cardiff Parkway Developments
Ymunwch â ni ar gyfer Brecwast Briffio nesaf y Gymuned Fusnes, lle byddwn ni’n croesawu Nigel Roberts o Ddatblygiadau Parcffordd Caerdydd i drafod un o brosiectau twf a chysylltedd newydd mwyaf cyffrous Cymru. Bydd Nigel yn rhannu cipolwg arbennig ar ddatblygiad Parcffordd Caerdydd – ardal fusnes fawr newydd 200 erw sy’n cynnwys gorsaf drenau ar y brif linell, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, a mynediad cynaliadwy i un o gronfeydd talent mwyaf y DU.
Beth i’w ddisgwyl
Fe gewch chi glywed am y cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd a beth allai’r orsaf newydd ei olygu’n gymdeithasol ac yn economaidd. Byddwn ni’n archwilio sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth Metro De Cymru, yn cefnogi teithio mwy gwyrdd i fwy na dwy filiwn o bobl, ac yn gallu agor cyfleoedd i gyflogwyr, buddsoddwyr a phartneriaid sgiliau. Byddwch chi hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllunio ac amserlen y datblygiad.
Mae’r sesiwn wybodaeth hon yn ddelfrydol ar gyfer:
- Busnesau lleol a rhanbarthol
- Buddsoddwyr a phartneriaid eiddo
- Darparwyr sgiliau, hyfforddiant ac addysg
- Entrepreneuriaid a chwmnïau sy’n ehangu
- Unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ecosystem busnes Caerdydd
- Y rhai sy'n awyddus i ddysgu mwy am Barcffordd Caerdydd
Ymunwch â ni naill ai yn bersonol neu ar-lein. Yn ystod y broses gofrestru, byddwch yn cael y dewis o sut yr hoffech ymuno â ni ar gyfer y sesiwn.
Ychwanegwch ddyddiad y digwyddiad hwn yn eich calendr ar ôl cofrestru.
Digwyddiadau yn y gyfres hon
Addysg Weithredol
Sesiwn blasu am ddim – Adeiladu eich brand drwy farchnata digidol dwyieithog
03 Tachwedd, 10:00
Gorwelion Digwyddiadau: Creu Gwerth Parhaol o Dwristiaeth Digwyddiadau Mawr
29 Gorffennaf, 08:30
Briffio Brecwast: Gwybod rhagor am Ddiwylliant Arloesi Amazon Web Services
13 Tachwedd, 08:30
Gwella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru
23 Hydref, 08:30Cysylltwch
- Linda Hellard
- [email protected]
- +44 29208 70976
Lleoliad
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU