Briffio Brecwast: Gwybod rhagor am Ddiwylliant Arloesi Amazon Web Services
- Dydd Iau 13 Tachwedd 2025
- 08:30 - 09:30
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Ymunwch â ni mewn sesiwn friffio unigryw dros frecwast gydag Amazon Web Services (AWS) i wybod rhagor am sut mae un o gwmnïau mwyaf arloesol y byd yn meithrin diwylliant o ddyfeisio parhaus a thrawsnewid digidol.
Ymunwch â ni mewn sesiwn friffio unigryw dros frecwast gydag Amazon Web Services (AWS) i wybod rhagor am sut mae un o gwmnïau mwyaf arloesol y byd yn meithrin diwylliant o ddyfeisio parhaus a thrawsnewid digidol.
Mae ymagwedd Amazon tuag at arloesi yn bell o fod yn arferol. Yn y sesiwn ryngweithiol hon, byddwch chi’n cael cipolwg ar y pedair prif elfen sy’n ysgogi arloesi yn Amazon.
- Diwylliant
- Mecanweithiau
- Pensaernïaeth
- Trefn
Dysgwch sut mae Egwyddorion Arwain, y dull Gweithio am yn ôl a chysyniad Timau Dau Pizza Amazon yn rhoi’r hyder i dimau arbrofi, ehangu’n ymarferol a chynnig atebion sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Pam dod i’r digwyddiad?
Ym myd digidol a chwim heddiw, nid opsiwn yw arloesi – mae’n rhaid wrtho. P’un a ydych chi’n entrepreneur, yn arweinydd busnes, yn fyfyriwr neu’n feddyliwr creadigol, bydd y sesiwn hon yn cynnig cyngor ymarferol i’ch helpu i wneud y canlynol:
- Deall sut mae arloesi yn hyrwyddo twf busnesau
- Cymhwyso egwyddorion Amazon yn eich sefydliad neu eich prosiectau eich hunain
- Cysylltu â gweithwyr proffesiynol ac arloeswyr sydd o’r un anian â chi
Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd eisiau arwain gan ddefnyddio technoleg, creu newid a datblygu at y dyfodol.
Digwyddiadau yn y gyfres hon
Addysg Weithredol
Sesiwn blasu am ddim – Adeiladu eich brand drwy farchnata digidol dwyieithog
03 Tachwedd, 10:00
Gorwelion Digwyddiadau: Creu Gwerth Parhaol o Dwristiaeth Digwyddiadau Mawr
29 Gorffennaf, 08:30
Parcffordd Caerdydd: Cysylltu Pobl, Busnes a Chyfle
17 Mawrth, 08:30
Gwella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru
23 Hydref, 08:30Cysylltwch
- Linda Hellard
- [email protected]
- +44 29208 70976
Lleoliad
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU