Skip to main content
English

Parcffordd Caerdydd: Cysylltu Pobl, Busnes a Chyfle


  • CalendarDydd Mawrth 17 Mawrth 2026
  • Clock outline08:30 - 09:30
  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

Ymunwch â ni ar gyfer Brecwast Briffio nesaf y Gymuned Fusnes, lle byddwn ni’n croesawu Nigel Roberts o Ddatblygiadau Parcffordd Caerdydd i drafod un o brosiectau twf a chysylltedd newydd mwyaf cyffrous Cymru. Bydd Nigel yn rhannu cipolwg arbennig ar ddatblygiad Parcffordd Caerdydd – ardal fusnes fawr newydd 200 erw sy’n cynnwys gorsaf drenau ar y brif linell, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, a mynediad cynaliadwy i un o gronfeydd talent mwyaf y DU.

Siaradwr

Nigel Roberts
Cardiff Parkway Developments

Ymunwch â ni ar gyfer Brecwast Briffio nesaf y Gymuned Fusnes, lle byddwn ni’n croesawu Nigel Roberts o Ddatblygiadau Parcffordd Caerdydd i drafod un o brosiectau twf a chysylltedd newydd mwyaf cyffrous Cymru. Bydd Nigel yn rhannu cipolwg arbennig ar ddatblygiad Parcffordd Caerdydd – ardal fusnes fawr newydd 200 erw sy’n cynnwys gorsaf drenau ar y brif linell, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, a mynediad cynaliadwy i un o gronfeydd talent mwyaf y DU.

Beth i’w ddisgwyl

Fe gewch chi glywed am y cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd a beth allai’r orsaf newydd ei olygu’n gymdeithasol ac yn economaidd. Byddwn ni’n archwilio sut mae’r prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth Metro De Cymru, yn cefnogi teithio mwy gwyrdd i fwy na dwy filiwn o bobl, ac yn gallu agor cyfleoedd i gyflogwyr, buddsoddwyr a phartneriaid sgiliau. Byddwch chi hefyd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y cynllunio ac amserlen y datblygiad.

Mae’r sesiwn wybodaeth hon yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Busnesau lleol a rhanbarthol
  • Buddsoddwyr a phartneriaid eiddo
  • Darparwyr sgiliau, hyfforddiant ac addysg
  • Entrepreneuriaid a chwmnïau sy’n ehangu
  • Unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol ecosystem busnes Caerdydd
  • Y rhai sy'n awyddus i ddysgu mwy am Barcffordd Caerdydd

Ymunwch â ni naill ai yn bersonol neu ar-lein. Yn ystod y broses gofrestru, byddwch yn cael y dewis o sut yr hoffech ymuno â ni ar gyfer y sesiwn.

Ychwanegwch ddyddiad y digwyddiad hwn yn eich calendr ar ôl cofrestru.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr