Sesiwn blasu am ddim – Adeiladu eich brand drwy farchnata digidol dwyieithog
- Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2026
- 10:00 - 11:00
- Audience: Ar agor i'r cyhoedd a staff
- Booking: Mae'r digwyddiad hwn am ddim
Ymunwch â'r sesiwn ar-lein awr o hyd am ddim hon i ddysgu sut y gall defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn eich marchnata eich helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, adeiladu ymddiriedaeth a chryfhau eich brand ledled Cymru.
Wedi’i thraddodi gan yr Athro Eleri Rosier
Ymunwch â'r sesiwn ar-lein awr o hyd am ddim hon i ddysgu sut y gall defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn eich marchnata eich helpu i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, adeiladu ymddiriedaeth a chryfhau eich brand ledled Cymru.
Drwy enghreifftiau ymarferol a mewnwelediadau arbenigol, byddwch chi’n dysgu sut y gall dull dwyieithog gefnogi eich gwefan, cyfryngau cymdeithasol, cynnwys a chyfathrebu digidol, gan eich helpu i gysylltu'n fwy effeithiol â chynulleidfaoedd Cymraeg.
Sylwer: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg. Mae'r ffocws ar strategaethau a chynnwys marchnata dwyieithog, ac nid oes angen sgiliau Cymraeg.
Pwy ddylai gymryd rhan?
> Perchnogion busnesau bach ac entrepreneuriaid
> Gweithwyr marchnata a chyfathrebu proffesiynol
> Elusennau a sefydliadau cymunedol
> Arweinwyr busnes sy'n edrych i ehangu eu cyrhaeddiad yng Nghymru
> Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau marchnata digidol
Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu
> Pam mae marchnata dwyieithog yn bwysig yng Nghymru
> Sut y gall sianeli digidol gefnogi twf brand
> Ffyrdd ymarferol o greu cynnwys Cymraeg a Saesneg
> Sut i ymgysylltu â chynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith
> Mesur llwyddiant eich gweithgarwch marchnata
Manteision cymryd rhan
> Sgiliau ymarferol y gallwch chi eu defnyddio ar unwaith
> Enghreifftiau go iawn o farchnata dwyieithog ar waith
> Mewnwelediadau gan arbenigwyr mewn marchnata ac ymddygiad defnyddwyr
> Cyflwyniad i'n cwrs marchnata digidol dwyieithog, Building a Brand: Bilingual Digital Marketing.
Am ddim | Ar-lein | 1 awr
Digwyddiadau yn y gyfres hon
Addysg Weithredol
Gorwelion Digwyddiadau: Creu Gwerth Parhaol o Dwristiaeth Digwyddiadau Mawr
29 Gorffennaf, 08:30
Parcffordd Caerdydd: Cysylltu Pobl, Busnes a Chyfle
17 Mawrth, 08:30
Briffio Brecwast: Gwybod rhagor am Ddiwylliant Arloesi Amazon Web Services
13 Tachwedd, 08:30
Gwella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru
23 Hydref, 08:30Cysylltwch
- Linda Hellard
- [email protected]
- +44 29208 70976