Gwella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru
- Dydd Iau 23 Hydref 2025
- 08:30 - 09:30
- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru Tasglu Hawliau Anabledd i archwilio sut y gellid gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl. Un argymhelliad allweddol oedd diwygio cynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU a chynnig dull wedi’i deilwra ar gyfer Cymru. Bydd y sesiwn hon yn rhannu’r stori y tu ôl i’r ymchwil a gynhyrchwyd ar y cyd a gyhoeddwyd ym Mehefin 2025, a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth a chyfranogwyr anabl o’r Tasglu. Gyda Llywodraeth y DU bellach yn adolygu’r cynllun fel rhan o ddiwygiadau cyflogaeth ehangach, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig mewnwelediadau amserol i’r hyn sydd ar y gorwel.
Siaradwyr
Professor Debbie Foster
Professor of Employment Relations and Diversity
Emma Sullivan
Researcher in the Equality Evidence Unit
Damian Bridgeman
Willow Holloway
Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru Tasglu Hawliau Pobl Anabl a gafodd ei gyd-gadeirio gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (Jane Hutt AS) a'r Yr Athro Debbie Foster o Ysgol Busnes Caerdydd. Gwnaeth y Tasglu gyfres o argymhellion a gynhyrchwyd ar y cyd gyda phobl anabl yn 2024. Un oedd argymhelliad y dylid diwygio a chryfhau cynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU a, dylid ystyried sefydlu cynllun i gyflogwyr y gellid ei deilwra i ddiwallu anghenion Cymru.
Sefydlwyd partneriaeth ymchwil unigryw rhwng Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth yn Uned Tystiolaeth Anabledd Llywodraeth Cymru a phobl anabl o'r Tasglu, a arweiniodd at gyhoeddi ymchwil a gynhyrchwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025, Ymchwil yn edrych ar ffyrdd o wella’r Cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru. Mae hyn wedi dod yn fwyfwy arwyddocaol ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei bwriad i adolygu'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd fel rhan o'i diwygiadau cyflogaeth a lles. Felly, ymunwch â ni ar gyfer y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hwn i glywed y stori y tu ôl i'r ymchwil a gynhyrchwyd ar y cyd ac i glywed beth yw’r camau nesaf.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys aelodau o'r tîm ymchwil: Yr Athro Debbie Foster (CARBS), Sharon Cross (Pennaeth Uned Dystiolaeth Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru), Emma Sullivan (Ymchwilydd yn yr Uned Dystiolaeth Cydraddoldeb), Damian Bridgeman a Willow Holloway (pobl anabl a chwaraeodd ran weithredol yn y Tasglu).
Digwyddiadau yn y gyfres hon
Addysg Weithredol
Sesiwn blasu am ddim – Adeiladu eich brand drwy farchnata digidol dwyieithog
03 Tachwedd, 10:00
Gorwelion Digwyddiadau: Creu Gwerth Parhaol o Dwristiaeth Digwyddiadau Mawr
29 Gorffennaf, 08:30
Parcffordd Caerdydd: Cysylltu Pobl, Busnes a Chyfle
17 Mawrth, 08:30
Briffio Brecwast: Gwybod rhagor am Ddiwylliant Arloesi Amazon Web Services
13 Tachwedd, 08:30Cysylltwch
- Linda Hellard
- [email protected]
- +44 29208 70976
Lleoliad
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU