Skip to main content
English

Nid beth rydych chi’n ei wybod sy’n bwysig… ond pwy mae eich pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt


  • CalendarDydd Mawrth 29 Medi 2026
  • Clock outline08:30 - 09:30
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd, staff a myfyrwyr
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Gwybodaeth cadw lle

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at y dyddiad gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno a dolen i ymuno â'r sesiwn.

Ymunwch â ni yn ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast nesaf gyda Jeppe Vilstrup Hansgaard, Prif Swyddog Gweithredol Innovisor, ymgynghoriaeth arbenigol sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut caiff gwaith ei wneud drwy bŵer dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol.

Pŵer nad yw’n cael ei werthfawrogi ddigon Dadansoddi Rhwydweithiau Cymdeithasol yng nghyd-destun newid sefydliadol

Ymunwch â ni yn ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast nesaf gyda Jeppe Vilstrup Hansgaard, Prif Swyddog Gweithredol Innovisor, ymgynghoriaeth arbenigol sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut caiff gwaith ei wneud drwy bŵer dadansoddi rhwydweithiau cymdeithasol.

Er bod siartiau sefydliadol yn dangos strwythurau ffurfiol, maen nhw’n colli'r perthnasoedd, y cysylltiadau a'r dylanwadwyr anffurfiol sy'n sbarduno cydweithio, arloesi a pherfformiad. Mae Dadansoddi Rhwydweithiau Cymdeithasol yn helpu sefydliadau i gael syniad o’r rhwydweithiau cudd hyn, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr er budd cyfathrebu, arweinyddiaeth, parodrwydd i newid ac effeithiolrwydd sefydliadol.

Gan dynnu ar enghreifftiau o sefydliadau ledled y byd, bydd Jeppe yn archwilio sut gall busnesau ddefnyddio gwybodaeth am rwydweithiau i wella cydweithio, cefnogi rhaglenni trawsnewid, nodi dylanwadwyr a chatalyddion, a gwella gwneud penderfyniadau.

Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol i’r canlynol:

Arweinwyr busnes, gweithwyr proffesiynol AD ​​a phobl, rheolwyr newid, ymgynghorwyr, arweinwyr prosiectau, ymarferwyr datblygu sefydliadol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn adeiladu sefydliadau mwy cysylltiedig ac effeithiol.

Gan gryfhau cysylltiadau ar draws cymuned fusnes Cymru, mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn partneru â Ffeibr, noddwr ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast.

Gwybodaeth cadw lle

Cynhelir y digwyddiad hwn ar-lein. Byddwn yn cysylltu â chi yn nes at y dyddiad gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno a dolen i ymuno â'r sesiwn.

Cysylltwch

Lleoliad

Marker
Ar-lein

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr