Skip to main content
English

Lle, Grym a Ffyniant: Myfyrdodau o Fanceinion


  • CalendarDydd Mawrth 13 Hydref 2026
  • Clock outline08:30 - 09:30
  • Audience: UsersAr agor i'r cyhoedd a staff
  • Booking: TicketMae'r digwyddiad hwn am ddim

Gwybodaeth cadw lle

Ymunwch â ni naill ai yn bersonol neu ar-lein. Yn ystod y broses gofrestru, byddwch yn cael y dewis o sut yr hoffech ymuno â ni ar gyfer y sesiwn.

Ymunwch â ni am y diweddaraf yn nghyfres Brecwast Briffio, sy’n cynnwys yr Athro Richard Jones FLSW FRS, Athro Emeritws mewn Ffiseg Deunyddiau a Pholisi Arloesi ym Mhrifysgol Manceinion, a fu gynt yn Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol i Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf.

Siaradwyr

Professor Richard Jones FLSW FRS
Emeritus Professor of Materials Physics and Innovation Policy at the University of Manchester

Dr Katherine Parsons
Research and lecturer at Cardiff Business School

Ymunwch â ni am y diweddaraf yn nghyfres Brecwast Briffio, sy’n cynnwys yr Athro Richard Jones FLSW FRS, Athro Emeritws mewn Ffiseg Deunyddiau a Pholisi Arloesi ym Mhrifysgol Manceinion, a fu gynt yn Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol i Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf.

Mae Manceinion yn aml yn bwnc trafod mewn dadleuon ynghylch adnewyddu trefol, datganoli i ddinas-ranbarthau a strategaeth ddiwydiannol ac arloesi ranbarthol; mae cyfeiriadau mynych Prif Weinidog newydd Prydain at “Manchesterism” yn ei gwneud hi’n fwy amserol fyth i fyfyrio ar ddelwedd a realiti datblygiad economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol diweddar y ddinas. Yn y sesiwn hon, gyda’r nod o ysgogi’r meddwl, bydd Richard Jones yn myfyrio ar brofiad Manceinion ac yn ystyried y berthynas rhwng lle, grym a ffyniant wrth lunio dyfodol economaidd a chymdeithasol.

Gan dynnu ar ei waith fel un sy’n gefnogwr o ymagwedd sy’n seiliedig ar le pan yn gwario ar ymchwil a datblygu i gefnogi economïau rhanbarthol, a'i gysylltiad ag Awdurdod Cyfunol Manceinion Fwyaf, bydd Richard yn cynnig ei farn bersonol ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu dinasoedd a rhanbarthau wrth iddyn nhw geisio ffynnu mewn modd sy’n gynhwysol a chynaliadwy.

Katherine Parsons o Ysgol Busnes Caerdydd fydd yn cadeirio'r sesiwn a bydd amser am gwestiynau a thrafodaeth gyda’r gynulleidfa.

Gan gryfhau cysylltiadau ar draws cymuned fusnes Cymru, mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn partneru â Ffeibr, noddwr ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast.

Gwybodaeth cadw lle

Ymunwch â ni naill ai yn bersonol neu ar-lein. Yn ystod y broses gofrestru, byddwch yn cael y dewis o sut yr hoffech ymuno â ni ar gyfer y sesiwn.

Cysylltwch

Lleoliad

Gweld lleoliad digwyddiad ar Google Maps
Marker
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Cardiff
CF10 3EU

Pynciau digwyddiadau

Math o ddigwyddiad

Rhannwch y digwyddiad hwn

Ychwanegu at y calendr